



Woodwind Instrument Repairs
Rhentu ac Addysgu
Rhentu Offeryn
Rwy’n cynnig cynllun rhentu offerynnau yn fisol am bris rhesymol fel nad oes rhaid gwario’n sylweddol er mwyn dechrau chwarae. Rwy’n rhentu offerynnau myfyrwyr o ansawdd uchel sydd wedi cael eu gwasanaethu’n ddiweddar a’u gwirio’n llawn. Gwneir taliadau misol trwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ar gael i’w rhentu ar hyn o bryd:
-
Ffliwtiau Myfyrwyr Yamaha
-
Cymalau pen crwm ar gyfer myfyrwyr iau â breichiau byrrach
Rwy’n gobeithio hefyd cynnig clarinetau a sacsoffonau myfyrwyr i’w rhentu yn fuan.
Prisiau:
Ffliwtiau Myfyrwyr Yamaha
£25 y mis
(isafswm cyfnod rhentu - 6 mis)
Cymalau pen crwm i ffitio ffliwtiau myfyrwyr
£15 y mis
(isafswm cyfnod rhentu - 6 mis)
Ffliwtiau Myfyrwyr Yamaha gyda chymal pen crwm
£35 y mis
(isafswm cyfnod rhentu - 6 mis)
Addysgu
Mae Lleucu yn hapus i addysgu disgyblion o bob oed a gallu, boed hynny er mwyn gweithio trwy’r system arholiadau graddedig neu er mwynhad personol yn unig. Mae hi’n addysgu yn ei chartref yng Nghaerdydd ac ar-lein.
Gall gynnig gwersi yn Gymraeg neu Saesneg.
Nod Lleucu yw darparu gwersi hwyliog a phleserus sy’n addas i allu ac uchelgais pob myfyriwr unigol, gan eu harwain yn llwyddiannus ar eu taith chwarae.
Prisiau:
£17 am 1/2 awr £30 yr awr
