



Woodwind Instrument Repairs
Cwestiynau Cyffredin
Pa mor aml ddylwn i drefnu gwasanaeth llawn ar gyfer fy offeryn?
Dylid rhoi gwasanaeth llawn bob 18 mis i 2 flynedd.
Pa mor hir fydd gwasanaeth llawn yn ei gymryd?
Ni fydd gwasanaeth ar offeryn y gofalwyd amdano’n dda yn cymryd mwy nag wythnos. Os daw’n amlwg yn ystod y broses bod angen gwneud rhagor o waith ar yr offeryn, cysylltir â’r cleient i drafod cyn gwneud rhagor o waith.
Rhoddir gwarant o 3 mis gyda phob gwasanaeth llawn.
​
A ellir delio â mân drwsiadau tra byddaf yn aros?
Na, mae’n debyg y bydd yn rhaid gadael y ffliwt gyda mi am ychydig o ddiwrnodau ar gyfer atgyweirio a phrofi.
Pryd ddylwn i gael atgyweiriad llwyr?
Mae’n debyg mai gweithdrefn unwaith mewn oes fydd atgyweiriad llwyr a bydd yn cymryd tua phythefnos. Bydd y gwasanaeth hwn yn dychwelyd yr offeryn i gyflwr a fydd mor agos â phosibl at newydd.
Rhoddir gwarant o 3 mis gyda phob atgyweiriad llwyr.
A allaf anfon fy offeryn atoch drwy’r post?
Cysylltwch â mi i drafod hyn ymhellach.
A allaf fenthyg offeryn i ymarfer arno pan fyddwch yn trin fy un i?
Gallwch, os bydd gennyf offeryn addas ar gael.
A allaf rentu offeryn gennych chi ond cael gwersi yn rhywle arall?
​
Gallwch.