Os ydych angen trwsiad cyflym, am gael gwasanaeth llawn neu atgyweiriad llwyr, bydd Lleucu yn gwneud yn siŵr bod eich offeryn gwerthfawr yn chwarae i’w lawn botensial.
Mae Lleucu yn hapus i addysgu’r ffliwt i ddisgyblion o bob oed a gallu, boed hynny er mwyn gweithio trwy’r system arholiadau graddedig neu er mwynhad personol yn unig.